Caerdydd / Hybrid
Ar Gais
Cyfnod penodol o 6 mis gyda'r phosibilrwydd o estyniad
Mae Ofcom yng Nghymru yn chwilio am Gynghorydd y Gymraeg i ymuno â’r tîm am gyfnod penodol o 6 mis gyda’r phosibilwrydd o estyniad.
Mae Ymgynghorwyr y Gymraeg Ofcom yn gydweithwyr aml-sgil sy’n rhan annatod o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Cymraeg Ofcom. Maen nhw’n gweithio gyda chyd-weithwyr ar draws Ofcom a’i gwasanaeth cyfieithu allanol i sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau ac allbwn cyfathrebiadau o fewn cwmpas yn cael eu cyfieithu a’u bod ar gael yn Gymraeg ar sianeli Ofcom. Gall hyn amrywio o reoli’r prosiect cyhoeddi ar gyfer dogfen fawr, gymhleth fel Adroddiad Blynyddol Ofcom i gyfieithu darnau byr o destun i’w cyhoeddi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ein gwefan.
Fe’ch cefnogir yn y rôl hon gan yr Uwch Reolwr y Gymraeg sy’n gyfrifol am gydymffurfedd Ofcom â Safonau’r Gymraeg.
Eich prif gyfrifoldebau:
- Cynghori, rheoli a gweinyddu'r broses gyfieithu ar gyfer holl gyhoeddiadau Ofcom yn y Gymraeg o fewn amserlenni tynn. Bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i:
- Cynghori a chytuno ar ofynion cyfieithu ac amserlenni ar gyfer pob prosiect cyhoeddi gyda thîm perthnasol Ofcom a chyda'n gwasanaeth cyfieithu allanol.
- Cydlynu a rheoli'r broses o’r dechrau I’r diwedd ar gyfer pob prosiect cyfieithu, gan gydweithio â chyd-weithwyr mewnol a'r gwasanaeth cyfieithu allanol i ddilyn prosesau y cytunwyd arnynt ac i gyflawni o fewn y terfyn amser y cytunwyd arno.
- Rheoli nifer o brosiectau cyfieithu ar unrhyw un adeg, gan gadw grid cyfredol sy’n dangos yr hyn sydd i ddod, sydd ar y gweill a'r hyn sydd wedi'i gwblhau.
- Rheoli nifer o fersiynau o ddogfennau gyda'r gwasanaeth cyfieithu allanol, gan sicrhau bod newidiadau brys neu funud olaf yn cael eu hymgorffori pan fo angen.
- Prawf-ddarllen cyfieithiadau er cywirdeb.
- Gweithio gyda thimau a’r adran Gyllid i ddarparu rhagolygon cywir o gostau cyfieithu.
- Nodi tueddiadau a llwythi gwaith y dyfodol a chymryd camau priodol i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael.
- Nodi problemau a chyfleoedd yn y broses gyfieithu a gweithio gydag eraill i gymryd camau priodol.
- Cadw cofnod o’r cyfieithiadau sydd wedi'u cwblhau i'w harchwilio a'u hanfonebu.
- Cyfieithu cyhoeddiadau testun byr (hyd at 500 o eiriau) o Saesneg i Gymraeg yn gywir, yn gyflym ac yn rheolaidd.
- Cyhoeddi cynnwys wedi’i gyfieithu i wefan Gymraeg Ofcom, profi teithiau defnyddwyr a darparu sicrwydd ansawdd, pan fo angen.
- Cymeradwyo testun ar gyfer cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
- Monitro a gweithredu galwadau i'r llinell gymorth Gymraeg a chadw cofnodion cyfredol, pan fo angen.
- Cefnogi’r Uwch Reolwr y Gymraeg yn ei waith i sicrhau bod Ofcom yn cydymffurfio â deddfwriaeth y Gymraeg (“y Safonau”), yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo gwaith Ofcom a’i dîm yng Nghymru drwy ymgymryd â phrosiectau ychwanegol, yn ôl yr angen. Er enghraifft, paratoi sleidiau ar gyfer cyflwyniadau dwyieithog neu drefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus.
Yn Ofcom, mae amrywiaeth yn hollbwysig. Mae’r corff wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol, gan hyrwyddo amrywiaeth o bob math. Mae’r prosesau recriwtio yn hygyrch i bawb, ac mae Ofcom yn cefnogi patrymau gweithio hyblyg.
Ymunwch ag Ofcom a gwnewch wahaniaeth mewn gwasanaethau cyfathrebu i bawb.
I drafod yn anffurfiol ac i gael copi o Friff yr Ymgeisydd, cysylltwch â thîm Penodi ar 07385 502078 neu helo@penodi.cymru, neu uwchlwythwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol isod.
Dyddiad cau: Canol dydd ar 29 Ionawr 2025
Ofcom Cymru
Cynghorydd y Gymraeg
Cwblhewch y ffurflen hon i'n helpu ni a'n cleient i fonitro amrywiaeth ein hymgeiswyr. Rydym yn annog datgeliad llawn, fodd bynnag rydym yn cydnabod y gallai fod yn well gan rai pobl beidio â datgelu’r cyfan neu rywfaint o’u data personol - ac os felly, mae croeso i chi ddewis “Gwell gennyf beidio â dweud”.
Bydd y manylion a roddwch yn cael eu trin gennym ni a'n cleient fel rhai dienw, preifat & gwybodaeth gyfrinachol.
Bydd y data hwn yn cael ei agregu ac yn cael ei ddefnyddio'n llym at ddibenion monitro ac adrodd ar gyfle cyfartal yn unig.
Mae rhai o'r cwestiynau a'r categorïau a ddefnyddir yn cynnwys y rhai a argymhellir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, cyfrifiad y DU a'r HESA, fel arfer gorau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y ffurflen hon, yna os gwelwch yn dda cysylltwch â ni.
Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Penodi am sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn gyfartal beth bynnag fo'i hil, lliw neu darddiad ethnig. I wneud hyn mae angen i ni wybod am darddiad ethnig pobl sy'n gwneud cais i ymuno â ni. Pa grŵp ydych chi'n uniaethu fwyaf ag ef?
Ydych chi'n ystyried bod gennych anabledd? Diffinnir person anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel rhywun â 'nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu'r person hwnnw i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd'.
Uploading file 1 of 2