Polisi Preifatrwydd
Goodson Thomas Ltd ("ni", "ein") yw unig berchennog yr holl wybodaeth a gesglir ar y wefan hon ac rydym yn cytuno i ddiogelu preifatrwydd eich data personol. Ar y dudalen hon, crynhoir polisïau ein gwefan mewn perthynas â chasglu, defnyddio a throsglwyddo eich data personol, a hefyd nodir pa fesurau diogelwch sydd ar waith gan Goodson Thomas Ltd i ddiogelu'r data hwn a'ch hawl i gael mynediad ato.
I bwy y mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol?
Yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, defnyddir "chi" neu "eich" i gyfeirio at yr unigolion isod:
-
Cleientiaid
-
Ymgeiswyr
-
Ffynonellau
-
Canolwyr
-
Unrhyw unigolyn a fydd yn cysylltu â ni trwy gyfrwng ein gwefan
-
Unrhyw unigolyn a fydd yn ymgysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Data a gesglir gennym
Mae Goodson Thomas Ltd yn fusnes treiddgarwch corfforaethol a chwilio gweithredol. Er mwyn darparu'r cyfryw wasanaethau, cesglir data personol amrywiol mewn cronfa ddata berchnogol a hynod gyfrinachol na all neb ond Goodson Thomas Ltd gael mynediad ati. Mae'r mathau o ddata personol adnabyddadwy a gesglir gan Goodson Thomas yn cynnwys: hanes gyrfaoedd, hanes addysg, profiad proffesiynol, crynodebau/CVs, manylion cyswllt, geirdaon a gwybodaeth a gynhwysir ar broffiliau cyfryngau cymdeithasol. Trwy ddewis rhoi eich gwybodaeth bersonol i Goodson Thomas Ltd, rydych yn dangos eich bod yn fodlon datgelu'r wybodaeth hon i Goodson Thomas Ltd a chael eich ystyried, pan fo hynny'n briodol, ar gyfer un o aseiniadau chwilio gweithredol Goodson Thomas Ltd. Os nad ydych yn dymuno datgelu eich gwybodaeth bersonol, ni fydd modd i Goodson Thomas Ltd darparu'r gwasanaethau a gynigir ar y wefan hon, oherwydd er mwyn inni allu asesu eich cyfleoedd cyflogaeth bydd yn ofynnol ichi gyflwyno gwybodaeth am gyflogaeth, gwybodaeth am addysg a gwybodaeth bersonol arall.
Chi sy'n llwyr gyfrifol am yr wybodaeth a roddwch i Goodson Thomas. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn gywir, yn fanwl ac yn gyfredol, ac nad yw'n camarwain neu'n debygol o gamarwain neu dwyllo, ac nad yw'n wahaniaethol, yn ddifenwol, yn sarhaus, yn anweddus, yn groes i'r gyfraith, yn anghyfreithlon nac yn torri deddfwriaethau, rheoliadau, canllawiau neu godau ymarfer perthnasol, nac ychwaith yn torri hawlfreintiau, nodau masnach neu hawliau eiddo deallusol unrhyw unigolyn mewn unrhyw awdurdodaeth.
Ni fydd Goodson Thomas Ltd yn ceisio unrhyw wybodaeth sensitif oni bai ei bod yn ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith at ddibenion recriwtio. Mae gwybodaeth sensitif yn cynnwys data'n ymwneud â hil neu darddiad ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu gredoau tebyg, aelodaeth o undebau llafur, iechyd corfforol neu feddyliol, bywyd rhywiol, neu gofnodion troseddol. Gofynnwn ichi BEIDIO â chyflwyno gwybodaeth sensitif o'r fath. Os dymunwch gyflwyno gwybodaeth sensitif am unrhyw reswm, bydd Goodson Thomas Ltd yn derbyn eich caniatâd penodol i ddefnyddio'r wybodaeth honno yn y ffyrdd a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn neu yn y ffyrdd a nodir pan ddewiswch ddatgelu'r wybodaeth.
Y modd y byddwn yn defnyddio ac yn datgelu gwybodaeth bersonol a fydd yn arwain at eich adnabod
Er mwyn inni allu eich cyflwyno fel ymgeisydd posibl i ddarpar gyflogwyr (cleientiaid Goodson Thomas Ltd), efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda'n cleientiaid. Mae Goodson Thomas wedi ymrwymo i roi mesurau priodol ar waith mewn perthynas â chywirdeb data a diogelwch data - sef mesurau sy'n ofynnol er mwyn diogelu eich gwybodaeth. Byddwn yn defnyddio eich data personol i ddarparu'r gwasanaethau recriwtio a gynigiwn, yn ogystal ag i reoli eich cyfrif ac i gysylltu â chi ynglŷn â chyfleoedd recriwtio sy'n berthnasol i feysydd eich diddordeb.
Trwy ddewis rhoi eich gwybodaeth bersonol i Goodson Thomas, byddwch yn dangos eich bod yn barod i rannu eich gwybodaeth gyda Goodson Thomas Ltd a chael eich ystyried, pan fo hynny'n briodol, ar gyfer un o chwiliadau gweithredol Goodson Thomas Ltd. Os nad ydych yn dymuno i'ch gwybodaeth gael ei rhannu â darpar gyflogwyr, neu os nad ydych yn dymuno cymryd rhan yn y gwasanaeth hwn ac elwa ar y chwiliadau gweithredol a ddarperir gan Goodson Thomas Ltd, peidiwch â chofnodi eich gwybodaeth bersonol ar y wefan.
Dim ond at y dibenion a nodir ar yr adeg y cesglir yr wybodaeth y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio. Ni fydd Goodson Thomas Ltd yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw drydydd parti at ddibenion cysylltiedig neu anghysylltiedig, oni nodir yn wahanol ar yr adeg y cesglir yr wybodaeth neu oni bydd yn ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Os penderfynwn ar unrhyw adeg ein bod am ddefnyddio data personol mewn modd sy'n wahanol i'r hyn a nodwyd ar yr adeg y casglwyd yr wybodaeth, byddwn yn rhoi gwybod ichi a byddwch yn cael dewis a fydd modd inni ddefnyddio eich gwybodaeth yn y ffordd wahanol honno, ai peidio. Fodd bynnag, ni fydd Goodson Thomas Ltd yn anfon hysbysiad atoch nac yn ceisio eich barn os cawn ein cymell neu ein gorfodi gan gyfraith gymwys, statud, rheoliad, ordinhad neu orchymyn llys i ddatgelu data personol.
Fel cwmni chwilio gweithredol, ymfalchïwn yn y cysylltiadau a adeiladwn gyda thrydydd partïon. O'r herwydd, byddwn yn cadw Data Personol yn ymwneud ag Ymgeiswyr am gyfnod penodol er mwyn inni allu eich cofio chi a natur eich rhyngweithio blaenorol gyda'n cwmni. Efallai y bydd hyn yn cynnwys Data Personol a gawn gan ein Cleientiaid ynglŷn ag Ymgeiswyr.
Bydd Goodson Thomas yn cadw eich Data Personol am 7 mlynedd ar ôl eich cyswllt olaf gyda ni. O ystyried y cyfnod cyfartalog y mae unigolion ar lefel weithredol yn aros mewn swyddi, credwn fod y cyfnod hwn yn rhesymol ar gyfer cadw data personol.
Y modd y byddwn yn defnyddio ac yn datgelu gwybodaeth bersonol na fydd yn arwain at eich adnabod
Mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio'n ddienw ac yn cael ei chydgrynhoi fel y gellir llunio ystadegau ar gyfer y diwydiant, ystadegau marchnata ac ystadegau cyflogaeth. Yn hyn o beth, bydd eich gwybodaeth bersonol yn wybodaeth na ellir ei defnyddio i'ch adnabod. Hefyd, mae Goodson Thomas Ltd yn monitro cyfeiriadau IP at ddibenion diogelwch, a hefyd i ddadansoddi tueddiadau, i weinyddu'r wefan, i olrhain symudiadau defnyddwyr ac i gasglu gwybodaeth ddemograffig eang a gaiff ei chydgrynhoi. Ni fydd cyfeiriad IP y cyfrifiadur a ddefnyddiwch i gael mynediad at www.goodsonthomas.com yn cael ei gysylltu ag unrhyw wybodaeth bersonol a nodwch ar y wefan.
Diogelwch gwybodaeth
Er mwyn atal mynediad anawdurdodedig, cynnal cywirdeb y data a sicrhau y defnyddir gwybodaeth mewn modd priodol, mae gan www.goodsonthomas.com weithdrefnau ffisegol, electronig, rheoli a diogelwch ar waith i ddiogelu'r holl wybodaeth a gesglir ar-lein.
Ni fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn ffordd a fydd yn anghydnaws â'r hyn a nodir yn y Datganiad Preifatrwydd, a byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod y data yn gywir, yn gyflawn, yn gyfredol ac yn ddibynadwy o ran y modd y bwriedir ei ddefnyddio. Hefyd, byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich gwybodaeth rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio, ei ddatgelu, ei addasu, a'i ddinistrio, a hefyd rhag unrhyw fynediad anawdurdodedig.
Byddwch yn ymwybodol y gallai'r wefan hon gynnwys dolenni sy'n arwain at wefannau trydydd partïon. Dim ond i'r wybodaeth a gesglir ar y wefan hon y mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol. Nid yw'r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i gynnwys, arferion preifatrwydd neu ymddygiad gwefannau o'r fath, ac nid yw Goodson Thomas Ltd yn gyfrifol am yr elfennau hyn. Rydym yn annog ein defnyddwyr i sylwi pan fyddant yn gadael ein gwefan ni ac i ddarllen polisïau preifatrwydd pob un o'r gwefannau, yn cynnwys rhai sy'n casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy.
Efallai hefyd y byddwn yn rhoi gwybodaeth i ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti er mwyn iddynt allu cynnal rhai o'n gweithrediadau busnes mewnol. Fel rhan o'n cytundebau gyda'r trydydd partïon hyn, mae'n ofynnol iddynt brosesu data o'r fath mewn modd diogel, yn unol â'n cyfarwyddiadau ni.
Cwcis
Tameidiau o wybodaeth yw cwcis, a chânt eu storio ar ddisg caled eich cyfrifiadur. Ar www.goodsonthomas.com, mae cwcis yn ein galluogi i weld pa rannau o'r wefan y byddwch yn edrych arnynt, ac o'r herwydd gallwn gynnig ichi fynediad rhwydd at yr wybodaeth sydd fwyaf perthnasol i chi. Ni fydd ein cwcis byth yn cynnwys unrhyw wybodaeth ddiogel nac unrhyw wybodaeth am eich hunaniaeth bersonol. Yn ôl pob tebyg, bydd gosodiad eich porwr yn dewis derbyn cwcis yn awtomatig; trowch at ffeil Help eich porwr os dymunwch newid y gosodiadau hyn. Os byddwch yn dewis peidio â derbyn cwcis, ni fydd modd i ddefnyddwyr cofrestredig weld tudalen gartref bersonol; yn hytrach, byddant yn gweld y dudalen gartref ragosodedig.
Newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd
Mae Goodson Thomas Ltd yn cadw'r hawl i newid neu addasu'r Polisi Preifatrwydd ar unrhyw adeg, am unrhyw reswm. Pe bai newidiadau pwysig yn cael eu cyflwyno i'r Polisi Preifatrwydd, byddwn yn nodi'r newidiadau hynny yn y fan hon. Dychwelwch at y Polisi Preifatrwydd hwn er mwyn gweld yr wybodaeth ddiweddaraf.
Ni fwriedir i unrhyw beth a gynhwysir yn y Polisi Preifatrwydd hwn greu contract neu gytundeb rhwng Goodson Thomas Ltd ac unrhyw ddefnyddiwr a fydd yn ymweld â'r wefan neu a fydd yn cyflwyno gwybodaeth adnabyddadwy ar unrhyw ffurf.
Eich hawliau
Mae gennych hawl i wrthod rhoi eich data inni. Fodd bynnag, trwy wrthod rhoi eich data, ni fydd modd i Goodson Thomas Ltd ddarparu'r gwasanaethau a gynigir ar y wefan hon, oherwydd er mwyn inni allu asesu eich cyfleoedd cyflogaeth bydd yn ofynnol ichi gyflwyno gwybodaeth am gyflogaeth, gwybodaeth am addysg a gwybodaeth bersonol arall. Mae gennych hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i ofyn inni beidio â chadw na phrosesu eich data mwyach. Mae gennych hawl i ddiwygio eich data os credwch ei fod yn anghywir. Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o'r data personol a gedwir amdanoch; er mwyn gwneud hynny, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
I gael rhestr lawn o'ch hawliau, ewch i: https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynau'n ymwneud â'r Polisi Preifatrwydd hwn, os hoffech arfer eich hawliau mewn perthynas â'ch data personol, os hoffech ofyn inni ddileu eich data personol, neu os hoffech ganmol gwasanaeth Goodson Thomas neu wneud cwyn yn ei gylch, cysylltwch â ni ar info@goodsonthomas.com neu trwy gyfrwng ein tudalen Cysylltu .