top of page
Penodi_Wales_RGB.png

Ein harbenigedd a'n dull

Mae’r enw Penodi yn adlewyrchu ein hamcan i gefnogi busnesau a sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Fel cangen o’r cwmni chwilio gweithredol sefydledig Goodson Thomas, rydym yn cynnig arbenigedd yn y diwydiant, profiad helaeth, a rhwydwaith sy’n ein galluogi i gyrraedd cronfa eang o ymgeiswyr.

 

Rydym yn cydnabod mai dim ond un agwedd ar farchnad recriwtio gymhleth yw’r Gymraeg - marchnad all fod yn gostus a chymryd llawer o amser i’w llywio heb arweiniad arbenigol. Rydym yn gweithio gyda chleientiaid i sicrhau bod eich cyfleoedd yn sefyll mas yn y farchnad.

 

Ar gyfer rolau lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, rydym yn helpu ymgeiswyr i ddefnyddio a chyflwyno’u galluoedd yn llawn. Ar gyfer rolau dymunol, rydym yn cynrychioli ymgeiswyr o bob cymuned yng Nghymru, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg.

 

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod dwyieithrwydd yn cynrychioli mwy na sgiliau iaith yn unig; mae'n adlewyrchu nodau a diwylliant penodol eich busnes, gan helpu i ddenu'r dalent orau.

Hyrwyddo talent yng Nghymru

Rydym yn darparu gwasanaeth recriwtio i gefnogi sefydliadau ar draws pob sector yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu dwyieithog, a’u cysylltu â gweithwyr proffesiynol o ansawdd uchel sydd â’r sgiliau perthnasol.

Penodi_Welsh language_RGB.png

Ein Partneriaid

Asset 8_3x.png

Chwiliwch am rolau lle gallwch ddefnyddio'r Gymraeg.

Gall eich dwyieithrwydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau sy'n gwerthfawrogi'r Gymraeg fwyaf. Archwiliwch eich cyfle gyrfa nesaf heddiw.

bottom of page