Datblygu gweithlu dwyieithog ar gyfer busnesau yng Nghymru
Rydym yn wasanaeth recriwtio yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar helpu cleientiaid i lenwi rolau lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol.
Gyda’n cyrhaeddiad eang a’n harbenigedd, rydym yn helpu i gysylltu’r dalent orau â sefydliadau ledled Cymru.


Dewch o hyd i'ch cyfle nesaf
Chwiliwch am rôl lle gall eich sgiliau Cymraeg ddisgleirio.
Pam Penodi
Yn gangen o’r cwmni chwilio gweithredol, Goodson Thomas, rydym yn arbenigo mewn helpu partneriaid i ddod o hyd i ymgeiswyr â sgiliau Cymraeg pan fo’r sgiliau hynny’n hanfodol neu’n ddymunol ar gyfer y rôl.

Ar gyfer cleientiaid
Gyda phrofiad helaeth o weithio yng Nghymru a gyda busnesau Cymreig, rydym yn deall pam fod y Gymraeg yn ffocws strategol i chi a sut i sicrhau bod eich ymdrechion recriwtio yn effeithiol.
Rydym yn lleihau’r baich o gymhlethdodau recriwtio, yn gwneud y gwaith caled ac yn wynebu’r anawsterau y mae sefydliadau'n eu hwynebu fel arfer wrth geisio cysylltu â'r gweithwyr proffesiynol delfrydol.
Gall ein tîm dwyieithog, sydd ag ystod amrywiol o sgiliau a phrofiadau, eich helpu i ddatblygu strategaethau i wneud eich cyfleoedd yn fwy deniadol i ddarpar ymgeiswyr.

Ar gyfer ymgeiswyr
Mae ein tîm arbenigol yn eich cysylltu â chyflogwyr sydd am adeiladu eu gweithlu dwyieithog.
Gan ganolbwyntio ar rolau hyd at lefel rheolwyr, rydym yn eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa i gyrraedd eich llawn botensial.
Byddwn yn amlinellu’n glir beth yw gofynion y rôl, gan gynnwys y lefel o hyfedredd yn y Gymraeg sydd ei angen ar gyfer swyddi hanfodol, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu i wella’ch sgiliau.
Ein partneriaid
Ein Hymrwymiadau
Wrth chwilio am yr ymgeisydd cywir, rydym yn herio ein hunain i ymgysylltu gydag unigolion o wahanol oedrannau, anableddau, rhyw, hil a chyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i estyn allan i ystod eang o ymgeiswyr gan sicrhau eu bod yn gweld y rôl ac yn cael y cyfle i ymgeisio.
Rydym yn cydweithio gyda chymunedau a phartneriaid gan gynnwys Equal Power, Equal Voice, Tîm Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Anabledd Cymru, Stonewall Cymru a Rhwydwaith Oed-gynhwysol Busnes yn y Gymuned.
Fel busnes sydd wedi’i sefydlu a’i wreiddio yng Nghymru, rydym yn falch o weithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat i ddatblygu eu gweithlu. Rydym yn ymgysylltu â marchnadoedd Cymru, y DU, ac yn rhyngwladol i’ch cysylltu â’r ymgeiswyr cywir, gan gefnogi blaenoriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rydym yn gweld y Gymraeg yn rhan annatod o’n gwaith a’n diwylliant, gan alinio â tharged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Cynhyrchir ein holl ddeunyddiau hyrwyddo yn ddwyieithog, a gallwn gyfeirio eich ymrwymiadau ieithyddol at ddarpar ymgeiswyr, gan eu hesbonio i’r rheini o weddill y DU ac yn rhyngwladol.
Mae Goodson Thomas yn cydnabod ei rôl o fewn sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2030, ac mae’n gyfarwydd â chynigion Llywodraeth y DU ar gyfer datgarboneiddio pob sector o economi’r DU erbyn 2050.
Yn dilyn pandemig COVID-19, rydym yn gweithio’n fwy clyfar ac o bell, gan leihau ein milltiroedd teithio a’n hôl troed carbon.
Rydym yn blaenoriaethu cyfathrebu effeithiol a chyfarfodydd wyneb i wyneb lle bo angen, gan ddewis cludiant cyhoeddus neu rannu cerbydau. Rydym yn defnyddio cyn lleied o ddeunyddiau print â phosibl, gan ddefnyddio opsiynau wedi’u hailgylchu lle bo angen, ac yn adolygu ein harferion busnes yn rheolaidd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae ein tîm wedi ymrwymo i hyfforddiant llythrennedd carbon, gan sicrhau bod pob cydweithiwr yn derbyn gwybodaeth, ac mae ein cynnydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Cyfleoedd
Diweddaraf
Swyddog Adnoddau
Llanion ac ar draws yr Awdurdod
Ar Gais
Rhan amser, contract cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028
Swyddog Cynaliadwyedd
Llanion gyda opsiynau hyblyg / hybrid
£29,572 - £31,067
Llawn amser, tymor penodol hyd at Mawrth 2027
Rheolwr y Wasg a'r Cyfryngau
Hyblyg
£35,806 - £37,988
Parhaol / Llawn amser